Maethu yng Nghymru

Mae dewis bod yn ofalwr maeth yn un o’r penderfyniadau mwyaf gwerth chweil y byddwch chi byth yn ei wneud, a byddwn ni wrth eich ochr bob cam o’r ffordd yn sicrhau eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, eich annog a’ch cefnogi – dyna pam y byddai 98% o’n gofalwyr maeth yn argymell maethu gyda TACT.

Yn TACT, rydyn ni’n fwy nag asiantaeth faethu yn unig; fel elusen, rydyn ni’n rhoi ein gofalwyr maeth a’r plant y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw, wrth wraidd popeth a wnawn.

Cwrdd â’n Tîm

“Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda TACT ers 2003. Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o’n tîm o staff a gofalwyr maeth hynod brofiadol ac o fod wedi cwrdd â chynifer o blant a phobl ifanc
arbennig dros y blynyddoedd. Fel Elusen sy’n arbenigo mewn maethu, mae’r prif bwyslais ar ein gofalwyr maeth a’n plant.”

Mike Anthony yw ein Rheolwr Ardal ar gyfer Maethu TACT yng Nghymru. Mae Mike yn rheoli tîm gwych o weithwyr cymdeithasol yn yr ardal ac yn sicrhau bod ein tîm o ofalwyr maeth yn cael eu cefnogi’n llawn.

Ydw i’n gallu maethu yng Nghymru?

Y cam cyntaf yw gwirio eich bod yn bodloni’r gofynion cyffredinol sylfaenol ar gyfer maethu:

  • Ydych chi’n 21 oed o leiaf?
  • Oes gennych chi o leiaf un stafell wely sbâr yn eich cartref?
  • Ydych chi’n breswylydd llawn amser yn y DU, neu a oes gennych ganiatâd amhenodol i aros?

Os ydych wedi ateb ‘ydw’ neu ‘oes’ i bob un o’r tri chwestiwn, rydych wedi bodloni’r meini prawf cychwynnol. Hoffem siarad â chi ymhellach ynglŷn â pham hoffech chi fod yn ofalwr maeth, ac i ofyn mwy o gwestiynau i chi.

Pam maethu gyda TACT yng Nghymru?

Daw gofalwyr maeth atom am sawl rheswm ac aros gyda ni, oherwydd rydyn ni’n eu helpu i wneud y gwaith mwyaf gwerth chweil yn y byd.

Gyda’n gilydd rydyn ni’n trawsnewid bywydau plant a phobl ifanc, gan roi’r cyfle iddyn nhw fyw bywydau hapus, cariadus a chyflawn.

  • Cymorth i ofalwyr newydd. Bydd pob gofalwr maeth newydd TACT yng Nghymru yn cael bydi gofalwyr maeth i roi cymorth ac arweiniad  anffurfiol.
  • Grwpiau Cymorth a Llesiant Lleol ar gyfer gofalwyr cyfredol.
  • Grwpiau cymorth wyneb yn wyneb misol, lle mae gofalwyr yn cysylltu ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer eu llesiant, gan gynnwys Teithiau Cerdded a Chiniawau Llesiant. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnig cymuned gefnogol a chyfleoedd i ail-fywiogi a rhannu profiadau.
  • Cefnogi eich plant eich hun. Rydyn ni’n deall bod eich plant eich hun yn chwarae rôl bwysig ar yr aelwyd faethu. Felly, mae ein digwyddiadau ‘Plant’ sy’n Maethu’ yn gyfle i’ch plant eich hun gymdeithasu â phobl ifanc eraill sy’n gwneud cyfraniad anhygoel at faethu. Mae’r gweithgareddau hyn yn aml yn cynnwys trampolinio, bowlio, a theithiau sinema, yn ogystal â grwpiau cymorth ar-lein wedi’u teilwra ar gyfer plant biolegol.
  • Cymorth therapiwtig. Grŵp cymorth therapiwtig misol gyda seicotherapydd, a chymorth i ofalwyr drwy ymgynghoriadau 1:1.
  • Cymorth i bobl ifanc. Mae ein Hymarferwyr Ymgysylltu a Gweithgareddau yn rhoi cymorth ychwanegol, gweithgareddau a digwyddiadau i’r plant yn eich gofal. Mae ein cymuned TACT Connect yn sicrhau, pan fydd plant yn gadael ein gofal, bod ganddyn nhw gymorth TACT wrth bontio i fyd oedolion a thu hwnt.

Ein Ffioedd a’n Lwfansau Hael

Bydd cyfanswm y lwfans y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau fel y math o ofal maeth rydych chi’n ei ddarparu, nifer y plant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw, eu hoedran, ac unrhyw anghenion ychwanegol.

Ceir taliadau ychwanegol hefyd ar gyfer penblwyddi plant, gwyliau a gwyliau crefyddol. Rydyn ni hefyd yn talu am wasanaeth hir a ffi Cyfeirio Ffrind (os ydych yn argymell rhywun sydd yna’n mynd ymlaen i fod yn ofalwr maeth cymeradwy gyda ni).

Mae’r lwfans maethu yn cynnwys dwy elfen.

  • Lwfans ar gyfer pob person ifanc yn eich gofal: mae hyn yn cynnwys gwariant fel bwyd, dillad a theithio i berson ifanc.
  • Ffi gofalwr maeth: dyma eich ‘ffi’ fel gofalwr, i gydnabod eich gwybodaeth a’ch sgil ac wrth ofalu am bobl ifanc yn eich cartref.


Dechreuwch Eich Taith Maethu


Ffoniwch ni

Ffoniwch ein tîm maethu cyfeillgar i ddarganfod mwy.

Holwch Ar-lein

Llenwch ein ffurflen i dderbyn pecyn gwybodaeth.

Sgwrs Fyw

Sicrhewch atebion i’ch holl gwestiynau maethu.

Dewch o hyd i ni

Dewch o hyd i’ch tîm maethu lleol heddiw.